Cyfarfodydd

NDMxxxx Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser

NDM7911 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf.

2. Yn mynegi pryder:

a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda bron i un o bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth;

b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser cyn bo hir.

3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan Gyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio gyda 120 i 130 y cant o'r capasiti blaenorol i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser.

4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021 yn cynnwys manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser;

b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf;

c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er enghraifft, gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol

Datganiad ansawdd ar gyfer canser 2021

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn ei le:

Yn nodi:

a) y dull gweithredu a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys cyflwyno datganiadau ansawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau clinigol;

b) y cafodd dull gweithredu Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021 ar ffurf datganiad ansawdd;

c) y cafodd dogfen Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021;

d) bod bron i £250 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn adferiad gwasanaethau GIG, gan gynnwys canser;

e) bod yr ystadegau canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019;

f) bod ehangu lleoedd hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg feddygol bob blwyddyn am bum mlynedd;

g) y bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau canser yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.

Cymru Iachach

Y Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser 2021

Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol)

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cwblhau'r broses o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7911 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf.

2. Yn mynegi pryder:

a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda bron i un o bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth;

b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser cyn bo hir.

3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan Gyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio gyda 120 i 130 y cant o'r capasiti blaenorol i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser.

4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021 yn cynnwys manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser;

b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf;

c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er enghraifft, gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol

Datganiad ansawdd ar gyfer canser 2021

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn ei le:

Yn nodi:

a) y dull gweithredu a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys cyflwyno datganiadau ansawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau clinigol;

b) y cafodd dull gweithredu Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021 ar ffurf datganiad ansawdd;

c) y cafodd dogfen Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021;

d) bod bron i £250 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn adferiad gwasanaethau GIG, gan gynnwys canser;

e) bod yr ystadegau canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019;

f) bod ehangu lleoedd hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg feddygol bob blwyddyn am bum mlynedd;

g) y bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau canser yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.

Cymru Iachach

Y Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser 2021

Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd  gwelliant 1.

Gwelliant 2. Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cwblhau'r broses o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd  gwelliant 2.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.