Cyfarfodydd

P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru a chroesawodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid sy'n dod i ben ar 1 Mawrth.

 

Cytunodd yr Aelodau i gadw golwg ar y deisebau nes bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ar y ddeiseb a'r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn, a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr ymgynghoriad ar argymhelliad y Pwyllgor, ac i adolygu unrhyw gynnydd a chamau gweithredu a allai godi yn sgil hynny.

 


Cyfarfod: 08/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2023.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

6

4

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 Adroddiad drafft - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd ar rai mân newidiadau. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cyhoeddi’r adroddiad terfynol cyn y Nadolig.

 


Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)

8 Materion allweddol - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion o bwys ond cytunodd i ailddechrau'r drafodaeth yn ddiweddarach pan fydd holl Aelodau'r Pwyllgor yn bresennol.


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 9)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch y datblygiadau arfaethedig i Stadiwm y Cymoedd.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Yr Arglwydd (David) Lipsey, Cadeirydd Premier Greyhound Racing

 

Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd

 

Mark Bird, Bwrdd Milgwn Prydain Fawr 

 

Professor Madeleine Campbell, Aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd (David) Lipsey, Cadeirydd Premier Greyhound Racing; Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd; Mark Bird, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Milgwn Prydain Fawr; Yr Athro Madeleine Campbell, Aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr a David Cartwright.   

Perchennog cŵn sy'n rasio yn Stadiwm Milgwn y Cymoedd.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

 

Vanessa Waddon, Hope Rescue

 

Alain Thomas, Achub Milgwn Cymru

 

Alex Nilan, Almost Home Dog Rescue

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vanessa Waddon, sylfaenydd Hope Rescue, Alain Thomas, sylfaenydd Achub Milgwn Cymru, ac Alex Nilan, Cadeirydd Almost Home Dog Rescue.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y byddai’n parhau i gymryd tystiolaeth ar y ddeiseb hon.

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Achub Milgwn Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth a chynnal ymchwiliad byr.