Cyfarfodydd

P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/06/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod y pryderon gwirioneddol a gododd y deisebydd. Er nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb, cytunwyd ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y pryderon ac ymateb y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau hefyd i wneud y canlynol:

 

  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at y ddeiseb ac anfon ymlaen yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog a'r deisebydd;
  • hysbysu’r deisebydd am ei Aelodau lleol a rhanbarthol os yw am godi’r mater gyda hwy’n uniongyrchol.