Cyfarfodydd

P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a'r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Llywydd, cytunodd i gau'r ddeiseb ac i ddiolch i'r deisebydd.

 

Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor y cyhoedd i ymgysylltu â'u cynghorwyr lleol a oedd newydd eu hethol ynghylch materion lleol.

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd, sy’n penderfynu ar ffurf briodol deisebau cyhoeddus a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 23, er mwyn gofyn am ei hymateb i'r ddeiseb.