Cyfarfodydd

P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/04/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3.3)

3.3 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS a Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd.

 

Cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths AS bobl at ei ddatganiad buddiannau hefyd a'i fod wedi bod ar seminar wythnos waith pedwar diwrnod â thâl o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes y bydd gwaith yr is-grwpiau wedi dod i ben ar y mater hwn.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd y bu dadl fywiog yn y Siambr ar y pwnc hwn yr wythnos flaenorol. Penderfynodd y Pwyllgor gadw’r ddeiseb ar agor tra’n aros gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i adroddiad a ddisgwylir ym mis Tachwedd.

 


Cyfarfod: 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn gofyn am ddadl ar adroddiad y Pwyllgor a’r ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ailedrych arni pan ddaw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor i law.

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Adroddiad drafft - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr adroddiad, yn amodol ar ychwanegu barn leiafrifol Joel James AS. Bwriedir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

 


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Yr Athro Abigail Marks (Athro Dyfodol Gwaith), Prifysgol Newcastle

 

Will Stronge (Cyfarwyddwr Ymchwil), Autonomy

 

Louisa Neale (Ysgogydd Arweiniol Newid Pobl a Diwylliant), Comisynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Cheney Hamilton (Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd), sefydliad Find Your Flex

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cheney Hamilton, Will Stronge, Louisa Neale a’r Athro Abigail Marks.

 


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth - (Panel 1) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

 

Mark Hooper, Deisebydd

 

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru Dros Dro  

Cyngres yr Undebau Llafur

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Hooper, y prif ddeisebydd a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngres Undebau Llafur Cymru.


Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn rhithwir, gan Joe O’Connor, Prif Swyddog Gweithredol, Global 4 Day Week.


Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

Sesiwn dystiolaeth - (Panel 2) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Joe O'Connor, Prif Swyddog Gweithredol, 4 Day Week Global

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i gymryd tystiolaeth bellach ar y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf ar 11 Gorffennaf.


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr a chasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion.