Cyfarfodydd

P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

Pan ddaw’r ymateb gan y bwrdd iechyd i law, bydd y Pwyllgor yn ei anfon ymlaen at y deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.