Cyfarfodydd

P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor a'i haildrafod pan gaiff y Cynllun Iechyd Menywod ei ddatblygu a’i gyhoeddi. Nododd yr Aelodau hefyd pa mor ysbrydoledig y mae’r deisebydd Beth Hales wedi bod gyda’i hymgyrchu a’i hymgysylltiad ar y mater hwn.

 


Cyfarfod: 17/11/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb i Wella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn y cwestiynau a ofynnwyd gan y deisebydd a Thriniaeth Deg i Ferched, gan gynnwys cynnig y deisebydd i weithio gyda hwy i lywio polisi yn y dyfodol.

 

At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i gynnal unrhyw waith ar y maes hwn.

 


Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am atebion i'r pryderon ac i ofyn cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai’n cefnogi’r alwad i godi ymwybyddiaeth o endometriosis ac yn ysgrifennu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phrifysgolion Cymru i dynnu sylw at fylchau yn y data er mwyn helpu i wella ansawdd yr ymchwil i endometriosis.

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

  • ofyn am farn y Gweinidog ar y cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebydd yn ei gohebiaeth ddiweddaraf;
  • ysgrifennu'n uniongyrchol at bob Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am y camau penodol sy'n cael eu cymryd yn eu hardaloedd i fynd i'r afael â'r materion hyn;
  • mynd ar drywydd yr ohebiaeth yr anfonodd y deisebydd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol; a
  • gwneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at stori'r deisebydd ynghylch y mater pwysig hwn