Cyfarfodydd
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 PTN 9 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2021-22 – 24 Chwefror 2023
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rhagor o wybodaeth am faterion a godwyd yn ystod y sesiwn ar yr ail gyllideb atodol - 23 Mawrth 2022
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/05/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 PTN 4 - Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 26 Ebrill 2022
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022
NDM7926 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb
Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig;
(v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a
(vi)
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7926 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb
Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i
Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu
talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a
(vi)
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
25 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 11/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
2 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-09-22 P1 –
Addrodiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , View reasons restricted (2/1)
Cofnodion:
2.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.
Cyfarfod: 02/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
Cyfarfod: 02/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)
3 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth
Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Sharon Bounds, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru
Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru
Dogfennau
ategol:
Ail Gyllideb Atodol
Llywodraeth Cymru 2021-22
Papur Briffio gan
Ymchwil y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23 , View reasons restricted (3/1)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Rheoli Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y
Llywodraeth ynghylch Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a
ganlyn i’r Pwyllgor:
·
Diweddariad ar y gorwariant ar
wasanaethau gofal iechyd sydd wedi ei ddileu yn Lloegr, ac unrhyw symiau
canlyniadol Barnett a gafodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y sector
gwirfoddol, yn enwedig hosbisau a gofalwyr di-dâl.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig amcanion penodol y
cyllid hwn.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion mewn perthynas â darparu
prydau ysgol am ddim.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwerthusiad
ffurfiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau cymorth busnes a
gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith
modelu sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bil cyflogau'r sector cyhoeddus yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 21/01/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 7)
7 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2021-22 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
FIN(6)-03-22 P3 –
Papur blaen
FIN(6)-03-22 P4 –
Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22
FIN(6)-03-22 P5 –
Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2021-22
FIN(6)-03-22 P6 –
Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27 , View reasons restricted (7/1)
- FIN(6)-03-22 P4 – Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, Eitem 7
PDF 1 MB
- FIN(6)-03-22 P5 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2021-22, Eitem 7
PDF 270 KB
- FIN(6)-03-22 P6 – Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22, Eitem 7
PDF 833 KB
Cofnodion:
7.1 Bu'r Pwyllgor
yn trafod ceisiadau o ran cyllideb atodol gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol.