Cyfarfodydd

SL(6)122 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

NDM7900 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.30

NDM7900 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 21/01/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)

4 Trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

 

Dogfennau ategol:

Rheoliadau (PDF, 48KB)

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) (PDF, 310KB)

FIN(6)-03-22 P1 – Adroddiad drafft

FIN(6)-03-22 P2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd – 20 Rhagfyr 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.


Cyfarfod: 11/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022-23 erbyn dydd Llun 31 Ionawr 2022.

 

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 3)

3 SL(6)122 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.