Cyfarfodydd

Craffu gweinidogol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Janes Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Claire Bennett – Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

Jo Salway – Cyfarwyddwr, y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch y pwyntiau a ganlyn:

·         Ailsefydlu ffoaduriaid o Affganistan yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y nifer y mae angen eu cartrefu, y math o lety sydd wedi’i sicrhau a’r gwasanaethau cymorth a gaiff eu darparu.

·         Hynt y cynlluniau i sefydlu canolfan breswyl arfaethedig i ferched yng Nghymru.

·         Canlyniadau neu hynt y trafodaethau ar gyllidebu ar sail rhyw.