Cyfarfodydd

P-06-1237 Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1237 Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr effaith ar bobl ifanc unigol, a’r anhawster i rieni ac athrawon sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru a chynlluniau ar gyfer arholiadau yn y dyfodol, nid oes unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd, felly cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.