Cyfarfodydd

P-06-1236 Dylai menywod gael ei sgrinio'n rheolaidd gyda phrawf gwaed o'r enw CA125 i ganfod canser yr ofari

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1236 Dylai menywod gael eu sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor hanes deisebau ar y pwnc hwn; canlyniadau'r treial 20 mlynedd; a pharodrwydd y Llywodraeth i newid ei safbwynt os bydd y cyngor meddygol yn newid. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.

Wrth wneud hynny, cytunwyd y byddai’r deisebydd yn cael trawsgrifiad o unrhyw ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn, ac adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi ar y mater.