Cyfarfodydd

P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i gyfleu sylwadau'r deisebydd, gan gynnwys y cais am gydweithio parhaus i wella gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer cleifion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am amlygu’r mater pwysig hwn.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog am y tro olaf i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd yn ei ohebiaeth ddiweddar.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd, a chytunodd i ysgrifennu at y cyrff a ganlyn:

 

  • Llywodraeth Cymru, yn ceisio ymateb i’r pryderon a’r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd ynghylch ansawdd a hyd a lled y gwasanaethau a’r cymorth a ddarperir i bobl yng Nghymru; a

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd a gwasanaethau niwroadsefydlu yng ngogledd Cymru.