Cyfarfodydd

P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • anfon cwestiynau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylder, yn enwedig o ran amseru; ac i

aros am ddiweddariad gan y Gweinidog ar y penderfyniad ynghylch galw’i mewn geisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod.

 


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gwestiynau'r deisebydd a oedd yn deillio o ymateb Cyngor Sir Powys. Cytunwyd y dylid trafod y ddau ymateb gyda’i gilydd pan ddaw'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law. 

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn y Sioe Frenhinol, a gofyn pa bryd y cynhelir yr ymgynghoriad ar y nodyn cyngor technegol ar ddatblygiadau amaethyddol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn:

·       sut y maen nhw’n ystyried effaith gronnol unedau dofednod dwys yn y broses gynllunio

·       am ymateb i’r pryder a godwyd gan y deisebydd ynghylch diffyg tryloywder pan na chaiff yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais ei chyhoeddi; ac

·       a oes arolwg amgylcheddol wedi'i gynnal i ddeall effeithiau'r crynodiad o unedau dofednod dwys ym Mhowys.