Cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Estyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2022 – 2023

Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

 

Adroddiad Blynyddol Estyn 2022-2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

 


Cyfarfod: 21/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiynau blaenorol.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiynau blaenorol.

 


Cyfarfod: 02/02/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 9)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol gydag Estyn.

 


Cyfarfod: 02/02/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 7)

7 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2021 - 2022

Owen Evans, Prif Arolygwr Ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

 

 

Adroddiad Blynyddol Estyn 2021 - 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

7.2 Cytunodd Estyn i ddarparu canfyddiadau darn o waith thematig sy'n cael ei wneud ar weithredu'r system ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd i'r Pwyllgor pan fydd ar gael. 

 


Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 14)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21

NDM7980 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2.    Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3.    Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4.    Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.35

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM7980 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2.    Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3.    Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4.    Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

5.       Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

6.       Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.


Cyfarfod: 13/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

6 Adroddiad Blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 4)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn flaenorol.

 


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

2.2 Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar nifer yr ysgolion sydd yn y ddau gategori statudol y mae sy’n gofyn am welliant sylweddol, ac sy'n gofyn am fesurau arbennig ar gyfer monitro gan Estyn.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r hyfforddiant y mae Estyn yn ei ddarparu ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.