Cyfarfodydd

Gwrandawiad cyn penodi Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/05/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch pwerau Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 10/03/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

6 Gwrandawiad cyn penodi Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 7)

Gwrandawiad cyn penodi, ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru – trafodaeth gan y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir.

7.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei osod yn y flwyddyn newydd.

 


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 6)

Gwrandawiad cyn penodi, ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Cadeirydd fod ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer yr eitem hon oddi wrth Laura Ann Jones AS a Siân Gwenllian AS. Roedd y ddwy wedi bod yn rhan o'r panel recriwtio trawsbleidiol ar gyfer y rôl, ac felly wedi cytuno na ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau'n ymwneud â'r gwrandawiad cyn penodi. Dirprwyodd Sioned Williams AS ar ran Siân.

6.2 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.