Cyfarfodydd

NDM7858 Dadl: Cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)

Dadl: Cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant

NDM7858 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021

Dogfennau Ategol
Y Cynllun Hawliau Plant: llawlyfr i staff Llywodraeth Cymru
Codi ymwybyddiaeth o hawliau plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM7858 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.55 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.