Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
7 Rhagfyr 2021 –
- Datganiad gan y Prif Weinidog:
Y Rhaglen Lywodraethu - Diweddariad (60 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio'r Dreth Gyngor yng Nghymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol (45 munud)
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Casgliad yr Adolygiad Ffiniau Etholiadol (45 munud)- datganiad ysgrifenedig
Dydd Mawrth
14 Rhagfyr 2021 –
- Datganiad gan Weinidog yr
Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol i Gymru (45 munud)
- Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (30 munud)
Dydd Mawrth
11 Ionawr 2022 -
- Datganiad gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud) - gohiriwyd o 30 Tachwedd 2021