Cyfarfodydd

NDM7855 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Clefyd niwronau motor

NDM7855 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.

2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.

3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Siân Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella graddfa ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7855 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.

2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.

3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

12

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.