Cyfarfodydd

Chair's introduction

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)

Cyflwyniad y Cadeirydd (09:00 - 09:15)

·       Oral update – various meetings

·       Paper 1 - Minutes from 13 October meeting

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

-      Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

-      Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad byr i'r Bwrdd ar ei chyfarfodydd diweddar gyda Richard Lloyd, Cadeirydd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol.

-      Trafododd y Bwrdd dri Hawliad Eithriadol ar gyfer Treuliau, a gyflwynwyd gan Aelodau. Penderfynwyd ar ddau yn y cyfarfod gyda gwybodaeth bellach i'w cheisio gan yr Aelod mewn perthynas â'r trydydd hawliad.

-      Soniodd y Bwrdd am eu cyfarfodydd y diwrnod blaenorol gyda grwpiau cynrychioliadol ar ran Aelodau a Staff Cymorth, a chyfarfodydd gydag Aelodau unigol amrywiol. Nododd y Bwrdd fod cyfarfodydd o'r fath wedi bod yn ddefnyddiol iawn i lywio trafodaethau'r Bwrdd.

-      Nododd y Bwrdd fod Aelod wedi gofyn am gael cyfarfod â'r Bwrdd yn ystod y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, ond bod yr Aelodau wedi'u galw i siarad yn y Cyfarfod Llawn ar y funud olaf. Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfod rhithwir gyda'r Aelod ar adeg sy'n gyfleus i bawb.

-      Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 13 Hydref.

 


Cyfarfod: 13/10/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 - Cofnodion 7 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·       Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

·       Nid oedd David Lakin, Swyddog Cymorth y Pwyllgor, yn bresennol oherwydd profedigaeth deuluol a mynegodd y Bwrdd eu dymuniadau gorau i David.

·       Llongyfarchodd y Bwrdd Joanna Adams ar ei dyrchafiad diweddar a diolchodd iddi am ei gwaith gwerthfawr yn cefnogi'r Bwrdd.

·       Croesawodd y Bwrdd Martha Da Gama Howells ac Angharad Coupar i’r Tîm Clercio.

·       Trafododd y Bwrdd hawliad Treuliau Eithriadol a dderbyniwyd gan Aelod, a phenderfynodd gymeradwyo'r hawliad yn amodol ar ymgynghori â Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn, fel sy'n ofynnol yn ôl y Penderfyniad.

·       Soniodd y Bwrdd am ei ymweliadau â swyddfeydd grwpiau gwleidyddol a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, a chytunwyd ei fod wedi rhoi cipolwg defnyddiol ar sut mae'r grwpiau'n gweithredu ac yn defnyddio'r cyllid a ddarparwyd iddynt yn ôl y Penderfyniad, i gefnogi dyletswyddau seneddol yr Aelodau.

·       Gan fyfyrio ar faterion parhaus ar gyfer y Bwrdd, cytunwyd y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau treth yr Aelodau yn cael ei cheisio a'i thrafod yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.

·       Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd:

·       Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at y Prif Weithredwr i ymgynghori ar y cais am Dreuliau Eithriadol.

·       Cynnwys goblygiadau treth ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

·       Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf


Cyfarfod: 25/11/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

1.   Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.   Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad byr i'r Bwrdd ar ei chyfarfod diweddar gyda Richard Lloyd, Cadeirydd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol.

3.   Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2021.