Cyfarfodydd

NDM7862 Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl Plaid Cymru – Tlodi bwyd

NDM7862 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.

2. Yn nodi ymhellach yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.

3. Yn cydnabod ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrinnir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol.

Gwelliant 2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r cyflog byw ac yn gwario dros £111 biliwn ar gymorth lles i bobl o oedran gweithio yn 2021/22.

Gwelliant 3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynllun swyddi gan gynnwys y rhaglen kickstart, gyda'r nod o greu swyddi llawn amser i leihau'r risg o dlodi.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7862 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.

2. Yn nodi ymhellach yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.

3. Yn cydnabod ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrinir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

15

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.