Cyfarfodydd

P-06-1229 Cynyddu'r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1229 Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar y cynnydd a adroddwyd ac a fwriedir ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, felly diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am dynnu sylw at fater mor bwysig a chaewyd y ddeiseb.