Cyfarfodydd

P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y Gweinidog yn glir nad yw’n bwriadu cyflwyno taliadau, felly cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud ar y mater hwn a chytunwyd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Nodwyd y gallai hwn fod yn faes y gallai Aelodau unigol ddewis parhau i'w amlygu.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cymwysterau Cymru.

 

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

  • ofyn i Cymwysterau Cymru egluro pam mae'r adroddiad ymchwil ar y mater hwn yn cael ei ohirio tan fis Mai; ac
  • aros i Cymwysterau Cymru gyhoeddi'r adroddiad ymchwil i gael trosolwg cliriach o brofiadau athrawon ledled Cymru, cyn penderfynu pa gamau pellach y gellir eu cymryd

 

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu’r Pwyllgor ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant yn parhau i gael mynediad at addysg.

 

Nododd yr Aelodau nad yw'r Gweinidog yn cynnig unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol, a chytunwyd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am ganfyddiadau'r arolwg o’r cyfnod pennu graddau.