Cyfarfodydd

P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth yn mynd rhagddynt, ac y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y dyfodol. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau eraill y gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at fater pwysig iawn drwy gyfrwng y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i rannu eu pryderon ynghylch yr amser gymerir i sefydlu’r gwasanaeth hwn ac  i ofyn am eglurhad pellach ynghylch:

  • y cynlluniau penodol ar gyfer datblygu Uned Mamau a Babanod ar gyfer gogledd Cymru a ble bydd yn cael ei lleoli;
  • yr amserlen a ragwelir ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud i ddatblygu'r Uned Mamau a Babanod a phryd y bydd y ddarpariaeth ar gael;
  • sut yr ymgynghorir â menywod a theuluoedd o ogledd Cymru sydd â phrofiad byw, a sut y cânt eu cynnwys yn y datblygiad; a

pha ddarpariaeth Gymraeg fydd yn cael ei darparu o fewn yr uned.