Cyfarfodydd

P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law nad ystyrir bod barbeciws untro yn broblem enfawr o safbwynt diogelwch tân, ac y byddai’n anodd gorfodi gwaharddiad, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater a chau’r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor bobl Cymru ac unrhyw un sy’n dod i ymweld yr haf hwn i ddefnyddio barbeciws untro mewn ffordd ddiogel, a’u gwaredu’n briodol, gan sicrhau mai diogelwch sydd bwysicaf, ac y gall pawb fwynhau’r parciau cenedlaethol a’n gwarchodfeydd natur a’n traethau bendigedig ar draws Cymru.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gwasanaeth Tân ac at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu safbwynt ar farbeciws untro.