Cyfarfodydd

P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/02/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Deisebau P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod a P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 20/01/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a 'P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod' a 'P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd' eu hystyried gyda'i gilydd.

Trafododd y Pwyllgor y deisebau a nododd gyhoeddi’r Cynllun Iechyd Menywod. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i geisio eglurder pellach ar gwestiwn a ofynnwyd gan Jenny Rathbone yn y ddadl ar 10 Rhagfyr 2024 ynghylch gofal trydyddol yn y Cynllun Iechyd Menywod. Bydd y Pwyllgor hefyd yn rhannu'r ymateb gan Triniaeth Deg i Ferched Cymru gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa nes bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi gorffen trafod y mater.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Menywod, Addysg ac Ymwybyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi'r mater pwysig a chytunwyd i gadw golwg ar y ddeiseb dros yr wythnosau nesaf, yng ngoleuni'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd.