Cyfarfodydd
NDM7840 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
NDM7840
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig
yn unig.
2.
Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
yng Nghymru.
3.
Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:
a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu
a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein,
erbyn 2023;
b)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail
dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu
hawdurdod lleol;
c)
sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu
bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.
Ein
Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru
Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru)
2021
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Dileu
pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn
cydnabod gwaith allweddol arolygwyr lles anifeiliaid yr awdurdodau lleol o ran
cynnal safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, fel
canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu ar-lein;
b)
datblygu trefniadau er mwyn diogelu safonau gofynnol o ran hyfforddiant, staff
a’r amgylchedd er mwyn sicrhau lles anifeiliaid mewn sefydliadau lles
anifeiliaid;
c)
gwella’r cymwysterau ar gyfer arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws
proffesiynol;
d)
cefnogi awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu cydnerthedd er mwyn helpu i reoli’r
dosbarthiad anghyson o sefydliadau lles anifeiliaid ar draws Cymru;
e)
ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch sut y dylai unigolion sy’n ailgartrefu
anifeiliaid ddatgan eu gweithgareddau o dan drwydded oddi wrth eu hawdurdod
lleol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7840 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig
yn unig.
2.
Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
yng Nghymru.
3.
Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:
a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu
a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein,
erbyn 2023;
b)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail
dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu
hawdurdod lleol;
c)
sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu
bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.
Ein
Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru
Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru)
2021
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.