Cyfarfodydd
NDM7722 Debate on a Members' Legislative Proposal - An employee ownership Bill
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil perchnogaeth cyflogai
NDM7722 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan
weithwyr.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) deddfu ar gyfer
cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth
ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;
b) rhoi dyletswydd
statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd
ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;
c) rhoi cymorth a
chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n
wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni
cydweithredol i weithwyr;
d) sicrhau bod pob
cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth
gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant
a pherchnogaeth gan weithwyr.
Cefnogwyr
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.52
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7722
Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a
pherchnogaeth gan weithwyr.
2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith
cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;
b)
rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn
2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;
c)
rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o
fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu
cwmni cydweithredol i weithwyr;
d)
sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r
bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion
pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.
Cefnogwyr
Dyma
ganlyniad y bleidlais:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
13 |
15 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.