Cyfarfodydd

NDM7805 Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)

Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol

NDM7805 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi'n llwyr

a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.

3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.

4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)

Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru

Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Sian Gwenllian (Arfon)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

NDM7805 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi'n llwyr

a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhau Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.

3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.

4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)

Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru

Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Sian Gwenllian (Arfon)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.