Cyfarfodydd

P-06-1211 Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a'r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1211 Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a’r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor bryderon y deisebydd, ond nododd hefyd fod strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar yr amgylchedd, ansawdd aer a llesiant pobl drwy ganolbwyntio ar deithio amgen a gwella’r seilwaith ar gyfer teithio cyhoeddus. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog ar hyn o bryd, a chytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.