Cyfarfodydd

P-06-1210 Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1210 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod pedair deiseb arall yn ymwneud â hyn wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor.  Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi egluro’r broses eithrio sydd ar gael i awdurdodau lleol ei dilyn os ystyrir bod 20mya yn amhriodol ar gyfer ffordd benodol. O ystyried bod y broses eithrio’n cynnig fforodd i’r deisebwyr dynnu sylw eu hawdurdod lleol ar eu pryderon, ac y gall yr awdurdodau hyn adolygu’r penderfyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1210 Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ofyn am fanylion pellach am y broses eithrio.