Cyfarfodydd

Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol

NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

Mae manylion Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i'w gweld yn:

 

http://gov.wales/legislation/programme/?skip=1&lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ar ôl 'Llywodraeth Cymru', mewnosod:

 

'ond yn gresynu at y diffyg uchelgais ynddo.'

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o fewn gweddill tymor y Cynulliad hwn a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod holl staff meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ar ôl 'Llywodraeth Cymru', mewnosod:

 

'ond yn gresynu at y diffyg uchelgais ynddo.'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

28

40

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o fewn gweddill tymor y Cynulliad hwn a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod holl staff meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

28

40

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

2. Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 

 

 

 

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol, Gorffennaf 2014

CLA(4)-21-14 – Papur 21 – Datganiad llafar

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad.