Cyfarfodydd

P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/01/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae’n Aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.