Cyfarfodydd
P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i
gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd
unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch
i'r deisebydd.
Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod
ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021. Felly, cytunodd yr
Aelodau i aros am ganlyniad y Cyfarfod Llawn hwnnw, gan gytuno i gyflwyno'r
ddeiseb yn ôl i'w thrafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn y sesiwn
honno yn y Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu'r deisebydd am
ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021.