Cyfarfodydd

P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i:

  • rannu barn arbenigol yr HSA a'r RSPCA; a
  • rhannu barn y deisebydd a’i alwad ar i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU i archwilio ffyrdd cadarnhaol o ddod â difa cywion i ben.

 

Cytunodd hefyd i gau'r ddeiseb ar y sail honno.

 

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am farn arbenigol ac eglurhad pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ddeiseb hon.