Cyfarfodydd

P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod bioamrywiaeth ond nad oes ganddi gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi barn Heledd Fychan AS, o gofio’r gydnabyddiaeth o’r angen i adolygu deddfwriaeth, y dylai ddigwydd fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd, natur a bioamrywiaeth.

 

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog yn gofyn i Lywodraeth Cymru:

 

  • wneud gwaith monitro statudol ar nifer yr adar sy’n cael eu saethu yng Nghymru i sicrhau bod y data ar gael; a
  • rhannu pa fesurau brys tymor byr sy’n cael eu hystyried i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

 

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi gofyn am ragor o dystiolaeth cyn cymryd unrhyw gamau pellach, megis ystyried dileu rhywogaethau o’r rhestr goch i’w hamddiffyn rhag cael eu saethu. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at yr RSPB a sefydliadau perthnasol eraill i geisio eu barn ar y mater.