Cyfarfodydd

P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi rhoi mwy o fanylion am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i rannu’r pryderon a’r awgrymiadau a godwyd gan RSPCA Cymru a Blue Cross ac i ofyn am eglurhad ynghylch a oes unrhyw drefniadau i roi cymorth ariannol i orfodi o ran gweithredu deddfwriaeth a rheoliadau ar waith yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod ymateb y Gweinidog yn nodi bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru ac y dylai pryderon gael eu codi gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, er bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn mynegi pryder difrifol ynghylch y diffyg gorfodi.

 

Felly, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth bellach gan sefydliadau lles anifeiliaid ynghylch yr arfer hwn yng Nghymru ac am unrhyw bryderon o ran gorfodi'r gyfraith.