Cyfarfodydd

NDM7783 Welsh Conservatives debate: COVID passes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pasys COVID

NDM7783 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pleidlais ystyrlon ar gyflwyno pasys COVID cyn iddynt ddod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru.

2. Yn credu, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod angen cyflwyno pasbortau COVID, fod yn rhaid dod â'r gofyniad hwn gerbron Senedd Cymru am bleidlais sylweddol cyn iddynt gael eu cyflwyno.

3. Yn cydnabod bod ailagor cymdeithas wedi digwydd o ganlyniad i'r rhaglen frechu lwyddiannus ledled y DU.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau erbyn 28 Medi ac yn cynnal dadl a phleidlais ar y defnydd gorfodol o’r pàs COVID mewn digwyddiadau a lleoliadau risg uchel, ar 5 Hydref.

2. Yn cydnabod bod cymdeithas wedi gallu ailagor diolch i aberth a gwaith caled dinasyddion Cymru yn ogystal â’r rhaglen frechu lwyddiannus.

 

Cofnodion:

Ni wnaed y cynnig.