Cyfarfodydd

Dyled a'r pandemig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/06/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch hygyrchedd gwybodaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch dyled a’r pandemig.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/10/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: yr adroddiad ar bwysau costau byw

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/10/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: yr argyfwng costau byw

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/09/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2.5)

2.5 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: yr argyfwng costau byw

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/09/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2.4)

2.4 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adroddiad ar bwysau costau byw

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan Jane Dodds AS ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar ddyled a'r pandemig.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am argymhelliad 7 yr adroddiad Dyled a’r Pandemig.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/06/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch dyled, dibyniaeth ar alcohol a chamddefnyddio sylweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr adroddiad ‘Dyled a’r Pandemig’ - 31 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

NDM7879 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a'r pandemig, a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Dogfen ategol
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad – 6 Ionawr 2022

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

NDM7879 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a’r Pandemig, a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan Gadeirydd Plismona yng Nghymru ynghylch troi allan anghyfreithlon honedig - 14 Rhagfyr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5a Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 7)

7 Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch dyled a'r pandemig - 5 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1a Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Dyled a'r pandemig: tystiolaeth ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig ychwnaegol.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd (Cymru) y Cyngor Defnyddwyr Dŵr at y Cadeirydd ynghylch effaith y pandemig ar lefelau dyled

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Dyled a'r pandemig - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau’n trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft ac yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.

 


Cyfarfod: 20/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

Ystyried tystiolaeth – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. 

 


Cyfarfod: 20/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Dyled a'r pandemig – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Llewyrchus

Paul Neave, Pennaeth Polisi Lles Cymdeithasol, Cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol 

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:

 

  • Darparu ystadegau’n ymwneud â nifer yr achosion lle'r oedd dibyniaeth yn ffactor sylfaenol mewn dyled.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd prosiectau cyngor ynni a’r cymorth a roddir iddynt.
  • Darparu gwybodaeth am strategaeth sy'n dwyn y rhesymau dros ddyledion a thlodi ynghyd, yn enwedig mewn perthynas â'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, toriadau mewn credyd cynhwysol a thlodi tanwydd.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am rôl yr uned data cydraddoldeb. 
  • Darparu rhagor o wybodaeth ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r rhai mewn gwaith sy'n cael eu gwthio i ddyled, ond nad ydynt yn gymwys i gael cymorth gan y llywodraeth.
  • Anfon gwybodaeth am farn Llywodraeth Cymru am goelcerthi dyled.
  • Cadarnhau a ddylid ymestyn y cyfnod o rybudd, sef chwe mis ar hyn o bryd, tan ddaw Deddf Rhentu Cartrefi 2016 i rym a pha asesiad sydd wedi’i wneud o’r hyn a all ddigwydd os oes bwlch cyn y daw’r Ddeddf i rym.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo dioddefwyr cam-drin domestig sydd â phroblem dyled. 

 

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Dyled a'r pandemig - gwasanaethau cyhoeddus

Rob Simkins, Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru

Will Henson, Rheolwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru

Lisa Hayward, Swyddog Polisi Diwygio Lles Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Will Henson, Cartrefi Cymunedol Cymru.

 

2.2 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.

 

2.3 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Shelter Cymru:

  • I rannu ei adroddiad 'Life in Lockdown in Wales'.
  • I ddarparu tystiolaeth bellach ar sut mae’n cyfeirio pobl at y gwasanaethau a'r help arbenigol mae’n eu darparu.
  • I ddarparu manylion am yr ohebiaeth y mae wedi'i chael gyda heddluoedd a Rhentu Doeth Cymru ynghylch troi allan anghyfreithlon.
  • I rannu rhagor o wybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o'r moratoriwm ar droi allan anghyfreithlon a chasglu dyled.

 

Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

  • I ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch nifer y tenantiaid cyngor sydd wedi mynd i ddyled gyda’u rhent ers y pandemig.

 

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 5)

5 Dyled a'r pandemig - melinau trafod

Steffan Evans, Swyddog Polisi ac Ymchwil Sefydliad Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Dyled a'r pandemig - credyd fforddiadwy

Claire Savage, Swyddog Polisi Undebau Credyd Cymru

Sara Burch, Rheolwr Undeb Credyd Gateway

Daniel Arrowsmith, Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig

Karen Davies, Prif Weithredwr Purple Shoots

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Dyled a'r pandemig - effaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig

Lee Tiratira, Arweinydd Tîm Ieuenctid a Gweithiwr Prosiect BME CYP, Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid (EYST)

Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Chwarae Teg:

  • I rannu gwybodaeth am ddyled ar draws tai a'r dreth gyngor a sut mae'r ystadegau'n rhannu’n grwpiau gwarchodedig.

 

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Dyled a'r pandemig - Sefydliadau cynghori

Gwennan Hardy, Uwch-swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth

Peter Tutton, Pennaeth Polisi, Ymchwil a Materion Cyhoeddus, StepChange

Jason Roberts, Cynghorwr Dyled, Canolfan Gyfraith Speakeasy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - sefydliadau sy'n rhoi cyngor ynghylch dyledion

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.