Cyfarfodydd

Effeithiau COVID-19: Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Ben Cottam, Pennaeth Cymru yn Ffederasiwn Busnesau Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr


Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 1

Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Paul Slevin, Llywydd, Siambrau Cymru

Dogfennau ategol:

  • Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a Paul Slevin, Siambrau Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

4.2 Bydd Ben Cottam yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor a ddarparwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sut gall adnewyddu’r contract economaidd ei wneud yn gliriach i fusnesau.


Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 5)

Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 2

David Chapman: Cyfarwyddwr Gweithredol, UK Hospitality Cymru

Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru

Suzy Davies, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Atebodd David Chapman, UK Hospitality Cymru, Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru, a Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor