Cyfarfodydd

P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio'r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon a chytunwyd nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen.  Nid yw’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell y sgrinio y gelwir amdano yn y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r mater hwn yn seiliedig ar gyngor gan y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol, sydd o’r farn nad yw sgrinio o'r fath yn briodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu barn y deisebydd a gofyn iddi ystyried cynnal astudiaeth hydredol benodol i Gymru am y rhesymau a amlinellwyd gan y deisebydd.