Cyfarfodydd

P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y mater hwn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, a’r ffaith y bydd y materion y mae’r ddeiseb yn eu codi yn cael eu harchwilio mewn sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1181 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n moroedd!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn gofyn a allai Ardaloedd Morol Gwarchodedig fod yn faes i’w ystyried yn ystod y Senedd hon.