Cyfarfodydd
Dyddiadau Toriadau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cadarnhaodd y
Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Thoriad y Pasg
2026, sy'n rhedeg hyd at ddiwedd y Senedd bresennol.
Cyfarfod: 30/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 25/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref 2025 a
thoriad y Nadolig 2025, a chytunwyd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner
tymor y gwanwyn a’r Pasg yn 2026.
Cyfarfod: 25/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 19/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad
yr Haf 2025, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr
Hydref 2025 a Thoriad y Nadolig 2025/6.
Cyfarfod: 19/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 09/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y
dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2025, a
chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a’r Haf 2025,
fel y nodir isod:
|
Toriad |
Dyddiadau |
|
Toriad yr Haf 2024 |
Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024 –
Dydd Sul 15 Medi 2024 |
|
Hanner Tymor yr Hydref 2024 |
Dydd Llun 28 Hydref 2024 – Dydd
Sul 3 Tachwedd 2024 |
|
Toriad y Nadolig 2024 |
Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024 - Dydd
Sul 5 Ionawr 2025 |
|
Hanner Tymor y Gwanwyn 2025 |
Dydd Llun 24 Chwefror 2025 - Dydd
Sul 2 Mawrth 2025 |
|
Toriad y Pasg 2025 |
Dydd Llun 7 Ebrill 2025 - Dydd
Sul 27 Ebrill 2025 |
|
*Hanner Tymor y Sulgwyn 2025 |
Dydd Llun 26 Mai 2025 - Dydd Sul
1 Mehefin 2025 |
|
*Toriad yr Haf 2025 |
Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025 –
Dydd Sul 14 Medi 2025 |
* Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Cyfarfod: 09/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref a
Thoriad y Nadolig yn 2024.
Nododd
Heledd Fychan y gallai amseriad Toriad y Nadolig effeithio ar waith craffu ar y
Gyllideb pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft yn hwyr eto,
fel mewn blynyddoedd blaenorol. Nododd y Pwyllgor Busnes y potensial ar gyfer
gwneud addasiadau yn ddiweddarach, pe bai angen, mewn ymateb i ddigwyddiadau yn
ymwneud â’r amserlen ar gyfer y Gyllideb eleni.
At hynny,
cytunodd y Pwyllgor ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer Hanner Tymor y
Gwanwyn a Thoriad y Pasg yn 2025.
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad yr Haf 2024, a
chytunodd arnynt, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr
Hydref a Thoriad y Nadolig 2024.
Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dyddiadau toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Gwanwyn a Phasg
2023, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn
a Haf 2023.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Senedd 2021 - 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad
y Nadolig yn 2021, yn ogystal â hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg yn
2022, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a
thoriad yr haf yn 2022.
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dyddiadau’r toriadau