Cyfarfodydd
Futures Report
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Dyfodol Ystwyth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Rhoddodd y Comisiynwyr sylwadau cadarnhaol ar y gwaith a wnaed i gasglu’r
gwersi a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol o brofiad y pandemig fel y gellid
ystyried y gwerth strategol hirdymor o gael y Senedd a’r Comisiwn yn sefydliad
mwy hyblyg, ymatebol a chynaliadwy.
Cadarnhawyd bod cynnwys y papur yn cofnodi’r profiad a’i fod yn sail dda ar
gyfer cyfeiriad strategol dyheadau’r Comisiwn ar gyfer y dyfodol.
Awgrymodd y Comisiynwyr y dylid trafod ymhellach yr hyn a fyddai’n cael ei
ystyried fel mesur llwyddiant.
Nododd y Comisiynwyr y
byddai'n ddefnyddiol i'r Aelodau weld crynodeb, ac y byddai'n creu sail ar
gyfer trafodaeth ddefnyddiol gyda nhw am eu hanghenion wrth i'r anghenion
hynny, i gyflawni eu dyletswyddau yn y Chweched Senedd, ddod yn fwy amlwg dros
y cyfnod sydd i ddod.