Cyfarfodydd

P-06-1191 Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1191 Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chydymdeimlodd â'r rhai sy'n cynllunio priodasau. Nododd y Pwyllgor fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.