Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd a Gofal

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/05/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) (y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol) ar y Bil Iechyd a Gofal (y Bil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 19/05/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) (y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol) ar y Bil Iechyd a Gofal (y Bil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 16/05/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

NDM7982 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol,  mewn organau i'w trawsblannu: troseddau alldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ebrill 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7982 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal sy’n ymwneud â thrafodion masnachol mewn organau i’w trawsblannu: troseddau alldiriogaethol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ebrill 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y ddwy eitem canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) y Bil Iechyd a Gofal - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol a'r adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol a chytunodd ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal (memoranda rhif 2 a rhif 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 


Cyfarfod: 10/03/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 2 a Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal.

 


Cyfarfod: 28/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 15/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

NDM7913 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Awst 2021 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (memoranda rhif 2 a rhif 3)
Ymateb Llywodraeth Cymru
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (memoranda rhif 2 a rhif 3)
Ymateb Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7913 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Awst 2021 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (memoranda rhif 2 a rhif 3)
Ymateb Llywodraeth Cymru
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (memoranda rhif 2 a rhif 3)
Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 10/02/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 


Cyfarfod: 10/02/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal: trafod yr adroddiad drafft

Papur 8 – adroddiad drafft

Papur 9 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 11 – nodyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 12 nodyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 17/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Weinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 22/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 18/11/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 04/11/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a

fideogynadledda drwy Zoom

 


Cyfarfod: 04/11/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal: trafod y dystiolaeth ysgrifenedig

 

Papur 3 - adroddiad drafft

Papur 4 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal: Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Papur 5 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Papur 6 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol

Papur 7 – tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

Papur 8 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Papur 9 – tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cyngor Optegol Cyffredinol  

Papur 10 - tystiolaeth ysgrifenedig gan Gonffederasiwn GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law a nododd fod y Pwyllgor Busnes wedi awgrymu ei fod yn bwriadu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r estyniad yn ddigon hir i ganiatáu iddo ofyn am dystiolaeth bellach, y byddai'n ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

LJC(6)-11-21 – Papur 21 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 28 Hydref 2021

LJC(6)-11-21 – Papur 22 – Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 20 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd ar y materion i’w cynnwys yn ei adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Iechyd a Gofal

 

LJC(6)-10-21 – Papur 10 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-10-21 – Papur 11 – Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch llawer o faterion yn ymwneud â'r Memorandwm.

 


Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Femorandwm y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 117

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Iechyd a Gofal ar 11 Tachwedd 2021.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 8)

8 Legislative Consent Memorandum on the Health and Care Bill

Papur 4: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: Atodiad A

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: Nodyn cyngor cyfreithiol: Atodiad B

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer adrodd tan ddydd Iau 11 Tachwedd.

8.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid perthnasol i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ar faterion sy'n codi o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.