Cyfarfodydd

P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r deisebydd ynghylch y mater hwn. Fodd bynnag, yng ngoleuni ymateb y Llywodraeth a oedd yn nodi nad yw’n bwriadu ar hyn o bryd gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.