Cyfarfodydd

P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar blwm mewn ffrwydron o dan broses Reach y DU. Cytunodd i aros am gasgliad yr ymgynghoriad pellach ar y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol drafft cyn cymryd camau pellach.

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i barhau i gadw llygad ar y mater nes ceir casgliad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o raglen waith UK Reach, sydd i ddod i ben ym mis Tachwedd 2022.

 

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog yn gefnogol i’r pryderon a godwyd gan y deisebydd ac maent yn cael eu hystyried fel rhan o’r trafodaethau â Llywodraethau’r DU a’r Alban i gyfyngu ar belenni plwm. Cytunodd y byddai’n parhau i gadw golwg ar y mater ac ystyried y ddeiseb eto’n dilyn adolygiad gan raglen waith UK REACH.