Cyfarfodydd

P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth a Gogledd Cymru i’w rhoi mewn cysylltiad â’r Cyngor Cymuned, ac wrth wneud hynny, diolchodd i’r deisebydd a chaeodd y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch ei ymweliad â’r safle.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Conwy, gan anfon copi o’r ohebiaeth at y cyngor tref a chymuned lleol, i ofyn a fyddai modd ymweld â'r safle ac ystyried codi arwyddion wedi'u goleuo'n dda er mwyn arafu’r traffig a’i ostegu, neu gyflwyno mesurau gostegu traffig eraill sy’n briodol.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau y byddai Cadeirydd y Pwyllgor yn mynd ar ymweliad â Glan Conwy i gwrdd â'r deisebydd ac ystyried y sefyllfa bresennol yn y lleoliad a grybwyllir yn y ddeiseb.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddychwelyd at y mater hwn ar ôl i'r Cadeirydd ddychwelyd o'i ymweliad, er mwyn asesu'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r mater.