Cyfarfodydd
Adroddiad blynyddol - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/05/2024 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 7)
Adroddiad Blynyddol Drafft a Chynllun Gweithredu Adolygu Effeithiolrwydd - Y wybodaeth ddiweddaraf (13.45 - 14.15
Eitem 7 – Papur
eglurhaol
Atodiad A -
Adroddiad Blynyddol drafft
Atodiad B -
Cynllun Gweithredu Adolygu Effeithiolrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
§
Cytunodd y Bwrdd ar ei Adroddiad Blynyddol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr
ychydig wythnosau nesaf. At hynny, nododd y Bwrdd y diweddariad ar gynllun
gweithredu'r adolygiad effeithiolrwydd.
Cam i’w gymryd:
§
Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyhoeddi a gosod yr Adroddiad Blynyddol – cyhoeddwyd
yr Adroddiad Blynyddol ddydd Mercher 12 Mehefin.
Cyfarfod: 18/05/2023 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 7)
Trafodaeth - Adroddiad Blynyddol 2022-23 (12.00-12.30)
Papur 7 – Papur blaen
Papur 7a – Drafft o naratif yr Adroddiad Blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
-
Cytunodd y Bwrdd ar
gynnwys drafft yr adroddiad ac awgrymodd rhai eitemau ychwanegol i’w
cynnwys. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo'r
adroddiad yn ffurfiol y tu allan i'r cyfarfod er mwyn ei gyhoeddi ym mis
Gorffennaf.
-
Cytunodd y Bwrdd ar
ffurf newydd yr adroddiad - byddai’n cael ei drefnu o dan bob un o’r amcanion
strategol y cytunwyd arnynt ar gyfer y Chweched Senedd, gan adlewyrchu ei
ymrwymiad yn yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor i gyflwyno adroddiad ar
sail ei raglen waith strategol.
-
Cytunodd y Bwrdd ar ei
waith cyfathrebu ac ymgysylltu i hyrwyddo’r adroddiad, gan gytuno i gynnal
digwyddiad ar gyfer yr Aelodau a’u Staff Cymorth i roi cyfle iddynt roi
sylwadau ar adroddiad blynyddol y Bwrdd,
a chytunodd ar ei raglen waith strategol ac i ystyried gwaith y Bwrdd am
weddill ei dymor.
Camau i’w cymryd:
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg drafft diwygiedig i'r
Bwrdd er mwyn iddo’i gymeradwyo cyn diwedd mis Mehefin i baratoi i'w gyhoeddi
cyn y digwyddiad ymgysylltu ym mis Gorffennaf.
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i gwrdd â Phenaethiaid Staff i dynnu
sylw at y digwyddiad cyhoeddi rhithwir arfaethedig.
Cyfarfod: 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
8 Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol drafft a
chytunwyd i gyhoeddi hwn fel trosolwg o waith y Pwyllgor yn ystod ei flwyddyn
gyntaf.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
6 Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno ar rai mân newidiadau. Bydd yr adroddiad
drafft yn cael ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.